Tarten winwns coch a chaws gafr gyda phesto
Tarten winwns coch a chaws gafr gyda phesto
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 200 ° C
I wneud y pesto, rhowch y perlysiau, y caws caled, y garlleg, y cnau, bron yr holl olew olewydd a phinsiad o halen a phupur i’w flendio mewn prosesydd bwyd.
Cynheswch ychydig o olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r darnau o winwnsyn coch, yna ychwanegu blas a’i goginio am ychydig funudau ar wres uchel i dynnu’r amrwd oddi ar y winwnsyn.
Rhowch lwy fwrdd o pesto ar bob cylchyn o does ac yn ychwanegu haen o winwnsyn, yna’r caws gafr. Pobwch yn y ffwrn am 10 munud neu tan fod y toes newydd ei goginio ac yn euraidd.
Gweinwch gyda berwr gerddi a berwr y dŵr wedi’i drwytho ag olew a halen fel blas.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd neu fyrbryd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.