Cyri katsu cyw iâr
Cyri katsu cyw iâr
Cynhwysion
Saws cyri katsu
Cyw iâr crensiog
Reis wedi'i bobi
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
I wneud y saws cyri katsu, cynheswch yr olew mewn padell fach ac ychwanegu’r winwnsyn wedi’i dorri a’r garlleg a’i ffrio am 2 funud.
Ychwanegwch y moron a’i ferwi’n araf am 10 munud gyda’r caead ymlaen a’i droi tan ei fod wedi meddalu ac maen nhw wedi dechrau carameleiddio.
Cymysgwch y blawd a’r powdr cyri Madras a’u coginio am funud.
Arllwyswch y stoc i mewn yn araf tan ei fod wedi’i gyfuno.
Ychwanegwch y mêl (os ydych chi’n ei ddefnyddio), y saws soi a’r ddeilen llawryf tan ei fod yn berwi.
Yna gallwch leihau’r gwres a’i fudferwi am 20 munud, fel bod y saws yn tewychu ond bod modd ei arllwys o hyd.
Ychwanegwch y Garam Masala, yna tynnu’r ddeilen llawryf a chymysgu’r saws gyda chymysgydd llaw tan ei fod yn llyfn. Os nad oes gennych gymysgydd mi ddylai fod yn bosib i chi wthio’r llysiau meddal drwy ridyll.
I wneud y cyw iâr crensiog, rhowch y cyw iâr yn fflat ar fwrdd torri a rhoi eich llaw ar ei ben a’i sleisio’n ofalus drwy’r canol gan greu dau ddarn.
I friwsioni’r cyw iâr, bydd angen yr hyn a elwir yn ‘system pané’. Mae hyn yn cynnwys plât neu silff gyda blawd â blas, un gydag wy ac ychydig o laeth, a thrydedd plât gyda briwsion bara.
Gorchuddiwch y cyw iâr trwy’r blawd yn gyntaf, yna’r wy ac yn olaf y briwsion bara, fel bod y blawd yn glynu wrth y cyw iâr, yr wy yn glynu at y blawd a’r briwsion bara yn glynu wrth yr wy ar gyfer y gorchudd crensiog perffaith.Ffriwch yn fas tan yn euraidd ac wedi’i goginio drwyddo. Yn dibynnu ar ba mor drwchus yw’r cyw iâr efallai y bydd angen peth amser yn y ffwrn i goginio drwyddo.
I goginio’r reis, rhowch y reis mewn llestr sy’n addas ar gyfer y ffwrn, yna ychwanegu’r dŵr a phinsiad o halen a’r ciwb stoc ac yna rhoi caead sy’n ffitio’n dynn a’i goginio tan ei fod yn berwi.
Unwaith y bydd yn berwi, rhowch ef mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (180°C / ffan 160°C) am 17 i 18 munud.
Tynnwch y llestr yn ofalus o’r ffwrn a chodi’r reis gyda fforc i’w fflwffio a’i weini gyda’r saws cyri katsu.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.