Darnau o datws bach llwythog
Darnau o datws bach llwythog
Mae pob llenwad yn gwneud digon ar gyfer 24 o datws newydd bach. Gellir eu gwneud o flaen amser a'u coginio yn syth o'r rhewgell.
Cynhwysion
Topin twrci a chorn
Topin cig moch a chaws
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Dylech ferwi, stemio neu rostio’r tatws tan eu bod yn feddal, eu draenio a’u rhoi i un ochr tan eu bod yn ddigon oer i’w trin.
Hanerwch y gymysgedd ac yna defnyddio pen handlen llwy de i wneud ychydig o bant i gnawd y daten wedi’i choginio ac arbed unrhyw ddarnau o datws i’w cymysgu yn y llenwad.
Cymysgwch y llenwad o’ch dewis (gweler isod) ac yna defnyddio llwy de i ychwanegu ychydig o lenwad i bob taten.
Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6 a rhoi’r tatws ar glawr pobi ag olew. Coginiwch heb ei orchuddio, am tua 15-20 munud neu tan eu bod yn frown euraidd ac yn boeth, yna eu tynnu o’r ffwrn a’u gweini’n gynnes.
Topin twrci a chorn
Cyfunwch y cnawd tatws gyda’r twrci wedi’i dorri a’r cynhwysion sy’n weddill mewn dysgl ganolig a’i roi ar y tatws. Parhewch yn unol â’r cyfarwyddiadau uchod.
Topin cig moch a chaws
Coginiwch y cig moch mewn padell ffrio fawr tan ei fod yn grimp, yna ei ddraenio ar bapur cegin a’i dorri’n fân.
Ychwanegwch y cnawd tatws mewn dysgl ganolig gyda menyn, mwstard, hanner y caws a hufen sur; a chymysgu’r cig moch a’r shibwns ac yna ychwanegu blas gyda phupur du. Rhowch y llenwad ar y tatws; a gwasgaru gweddill y caws wedi’i gratio drostynt. Parhewch yn unol â’r cyfarwyddiadau uchod.
I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3. Rhowch ar glawr fflat a’i rewi tan ei fod yn solet yna casglu’r tatws a’u pacio mewn cynhwysydd aerglos, eu labelu a’u rhewi am hyd at 3 mis.
I’w ddefnyddio: Coginiwch y tatws wedi’u rhewi a chwblhewch y rysáit o gam 4 a chaniatáu 5 munud o amser coginio ychwanegol.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.